Dyro olwg ar dy haeddiant, Golwg ar dy deyrnas rad; Brynwyd i mi ac a seliwyd, Seliwyd i mi ā dy waed; Rho i mi gyrchu tu ag atti, Peidio byth a llwfrhau; Ar fy nhaith ni cheisiaf gennyt, Ond yn unig dy fwynhau. Ac ni cheisiaf drysor arall, Ond tydi mewn anial fyd; 'Rwyt ti'n ddigon byth dy hunan, Dim ond ti a lanw mryd, Nid oes gystudd fyth wna niwed, Pan bwy'n pwyso ar dy rym; Hebot nid oes rwyd gan Satan. Na wna'n rhyw fodd niwed im'. Gyda thi yr āf trwy'r fyddin, Gyda thi yr āf trwy'r tan, - Nid ofnaf ymchwydd yr Iorddonen, Ond it' fyned o fy mlaen: Ti yw fy amddiffynfa gadarn, Ti yw fy Mrenin a fy Nhad; Ti dy hunan oll yn unig, Yw fy iachawdwriaeth rād. Ffynnon wyt o bob tosturi, Nid oes gwybod faint dy ras, Dy haelioni sydd yn cynnal, Pob peth ar y ddaear lās: Dal fy ysbryd gwan i fynu, Edrych ar y bryniau mawr, Sydd yn pwyso ar fy ngalon, Ac yn ceisio'm dodi i lawr. D'wed pa bryd cāf yfed dyfroedd, Dyfroedd gloew sy'n iachau, Pob rhyw bleser wedi darfod, Ond yn unig dy fwynhau: Pwyso'm henaid ar dy fynwes, Edrych yn dy wyneb llon, Caru nes anghofio'r oriau, Sy' imi ar y ddaear hon.William Williams 1717-91
Tonau [8787D]: gwelir: Ffynnon wyt o bob tosturi Gwlad o d'wyllwch wyf yn trigo O am nerth i dreulio 'nyddiau Tan y don yr wyf yn llefain |
Give a look on thy virtue, A look on thy gracious kingdom; Bought for me and sealed, Sealed for me with thy blood; Grant me to set off towards thee, And never to be discouraged; On my journey I will seek nothing from thee, But only to enjoy thee. And I will seek no other treasure, But thee in a desert world; Thou art sufficient forever thyself, Non but thee shall fill my mind, There is no affliction shall ever do harm, While I live leaning on thy strength; Without thee Satan has no snare, That can do any kind of harm to me. With thee I shall go through the army, With thee I shall go through the fire, - I shall not fear the swelling of the Jordan, If only thou go before me: Thou are my strong defence, Thou are my King and my Father; Thou thyself all alone, Art my gracious salvation. A fount art thou of every mercy, There is no knowing the extent of thy grace, Thy goodness is upholding Every thing under the blue sky: Hold my weak spirit up, Look on the great hills, Which are weighing on my heart, And trying to put me down. Say when I may drink waters, Clear waters which are healing, Every kind of pleasure having faded away, Except enjoying thee alone: Leaning my soul on thy breast, Looking on thy cheerful face, Loving until forgetting the hours, Which are left to me on this earth.tr. 2011 Richard B Gillion |
|